Y Cwmni Perfformio
CWMNI DAWNS O GYMRU
Ers 1983, mae Diversions wedi ennill bri fel Cwmni dawns sy'n cipio gwobrau, sydd yn cyflwyno rhaglenni o ddawnsio mentrus a lluniaidd. Fel Cyfarwyddwr Artistig mae Ann Sholem wedi ei hymrwymo ei hun i gyflwyno repertoire unigryw trwy gomisiynu coreograffwyr na welir, yn gyffredin, eu gweithiau yn y DU. Mae perfformiadau yn cynnwys dau ynteu dri chyflwyniad ac yn mynd ar daith trwy Gymru, y DU a thramor. Uchelgais y Cwmni yw bod yn Gwmni Amlwg o Gymru ac yn un o gwmnïau dawns amlycaf Ewrop, gan gynhyrchu repertoire cyffrous gafaelgar o'r safon uchaf gyda'r gorau o blith coreograffwyr rhyngwladol.
Ar hyn o bryd mae Diversions yn cynnwys wyth o ddawnswyr a dau brentis mewn partneriaeth ag Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain ac Academi Ddawns Rotterdam.
Mae comisiynau diweddar wedi cynnwys gweithiau gan: Stephen Petronio (UDA), Stephen Shropshire (UDA/Yr Iseldiroedd), Itzik Galili (Israel), Stijn Celis (Gwlad Belg), Juan Carlos Garcia (Sbaen), Roy Campbell-Moore (Cymru) a Hélène Blackburn (Montreal). Mae'r Cwmni yn teithio yn fyd-eang gan berfformio mewn lleoliadau mor amrywiol â: Chanolfan Mileniwm Cymru (Caerdydd), y Tŷ Opera Mawreddog (Belffast), Theatr ei Fawrhydi (Aberdeen), Neuadd y Frenhines Elizabeth (Llundain) yn ogystal â'r Teatro National de Cuba (Havana) a'r Technopolis (Athen).









