Cyfranogi

  • pss_1.jpg
  • pss_4.jpg
  • pss_2.jpg
  • pss_3.jpg
  • pss_6.jpg
  • pss_5.jpg

Annog y cam nesaf

Mae Diversions yn credu'n gryf fod rhaid meithrin a datblygu'r genhedlaeth nesaf o artistiaid dawns. Mae cymryd rhan yn Dance Explorer yn rhoi cyfle i ddoniau gael eu meithrin ar bob lefel medrusrwydd trwy gyfrwng cyrsiau, digwyddiadau a gweithdai yn ogystal â chyflwyno'r gelfyddyd trwy anerchiadau, darlithoedd ac arddangosfeydd, a gweithdai cyflwyno lle y gall y rheini sy'n bresennol gymryd rhan. Mae Dance Explorer: Cyfranogi yn sicrhau fod dawnswyr proffesiynol cwmni Diversions yn ymwneud â'r rheini sydd ag ystod o brofiad a gallu â'r nod o ysbrydoli'r rheini sy'n cymryd rhan. Mae rhagoriaeth greadigol a technegol wrth graidd yr holl waith cyfranogi a gyflawnir.

Os oes gennych gwestiwn ynteu os hoffech wybodaeth ynghylch unrhyw rai o'r Gweithgareddau Cyfranogi a restrir isod, cysylltwch â'n Swyddog Cyfranogi, Megan Pugh [hyperlink megan@diversionsdance.co.uk] ynteu rhowch ganiad ar y ffôn: 029 2063 5612.

Enghreifftiau o'n gwaith Cyfranogi:

Gweithdai pan ar daith

Yn ystod dwy daith y Cwmni yn y DU, tadogir hanner amser Diversions i weithio'n lleol gydag ysgolion, colegau a grwpiau dawns cymunedol.

Mae'r gweithdai yn cael eu dysgu gan ddawnswyr Diversions ac maent wedi eu gwreiddio yn y Cwricwlwm Cenedlaethol. Maent yn darparu;

 

  • Cipolwg ar ddosbarth techneg dyddiol dawnsiwr proffesiynol.
  • Dealltwriaeth o'r ffordd y mae coreograffwr proffesiynol yn datblygu darn o'r syniad cychwynnol hyd at y gwaith gorffenedig.
  • Cyflwyniad ymarferol i'r repertoire sy'n cael ei berfformio ar hyn o bryd gan Diversions.
  • Cyfle i drafod a gwerthuso dawns gydag unigolion proffesiynol yn y maes.

 

Yn bennaf oll, nod y gweithdai yw bod yn addysgiadol ac yn hwyl. Rydym yn chwilio bob amser am gyfleoedd i feithrin perthnasau newydd a chyfleoedd i weithio gydag amrywiol grwpiau. Felly, os ydych yn athro ynteu'n dymuno dod i wybod os ydyw Diversions yn cynnal gweithdai dysgu yn eich ardal chi, cysylltwch os gwelwch yn dda â Megan [hyperlink megan@diversionsdance.co.uk] ynteu roi caniad ar y ffôn: 029 2063 5612.


DYFODOL DAWNS CAERDYDD:

Rhaglen Greadigol o hyfforddiant dawns a gweithgareddau perfformio yw Dyfodol Dawns Caerdydd a gynhelir gan Diversions mewn partneriaeth ag A2: Actifyddion Artistig, y tîm addysg a chyfranogi yn y Theatr Newydd a Neuadd Dewi Sant.


Springboard:

Cwrs tridiau dros wyliau'r Pasg ar gyfer dawnswyr rhwng 13 a 21 mlwydd oed. Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn gweithio gyda dawnswyr cwmni Diversions yn y Tŷ Dawns, gan ganolbwyntio ar dechnegau cyfoes a chan orffen gydag arddangosfa anffurfiol o'r gwaith ar gyfer teuluoedd a chyfeillion. Mae'n gyfle ardderchog i feithrin medrau newydd, cyfarfod â dawnswyr ifanc eraill a phrofi diwrnod ym mywyd ein dawnswyr proffesiynol.


Summer Dance:

Ysgol Haf dwys wythnos o hyd ar gyfer dawnswyr medrus rhwng 14 a 24 mlwydd oed. Mae Summer Dance yn gyfle i gael profiad o greu gwaith newydd o ddawns a lefel broffesiynol o berfformio dan arweiniad dawnswyr cwmni Diversions. Rhaid i'r rheini sy'n cymryd rhan fynd trwy broses glyweld, wella eu technegau dawnsio cyfoes a dysgu gwaith newydd a berfformir eleni yn Neuadd Dewi Sant. Mae 2008 yn nodi chwarter canrif ers sefydlu Neuadd Dewi Sant a Diversions.

 

Cymdeithion:

Cyfle i ddawnswyr dawnus rhwng 14 a 19 mlwydd oed gymryd rhan mewn dosbarthiadau wythnosol dan arweiniad dawnswyr proffesiynol cwmni Diversions yn y Tŷ Dawns. Mae Cymdeithion wedi ei neilltuo ar gyfer dawnswyr ymroddedig sydd â lleiafswm o ddwy flynedd o hyfforddiant ac â diddordeb cryf mewn mynd ymlaen i ddawnsio'n llawn amser yn broffesiynol. Mae'r cynllun hwn yn rhoi cefnogaeth amhrisiadwy, cyngor a hyfforddiant gydag asesu parhaus ac adborth. Detholir y Cymdeithion yn ystod y clyweliad ar gyfer Dawns yr Haf.


SHAKE & SHOUT:

Ysgol Haf bum niwrnod o hyd ar gyfer rheini rhwng 10 ac 13 mlwydd oed, gyda dawnswyr Diversions a cherddorion o Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Mae Shake & Shout yn brosiect ar y cyd rhwng Dance Explorer Diversions: Cyfranogi a Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Cyfle ardderchog i weithio gyda pherfformwyr proffesiynol, dysgu medrau newydd, gwneud ffrindiau newydd a chael llawer o hwyl. Ar ddiwedd yr wythnos mae cyfle i rannu'r gwaith a wnaed gyda theuluoedd a chyfeillion. Medrwch lawr-lwytho ffurflen gais yma (attach hyperlink). Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4ydd Gorffennaf 2008.


BOYS ONLY:

Cwrs penwythnos a gynhelir yn y Tŷ Dawns yw Boys Only ac yn bartneriaeth rhwng Diversions a'r Academi Ddawns Frenhinol ar gyfer dawnswyr gwrywaidd. Mae ar gyfer dawnswyr gwrywaidd sydd rhwng 10 a deunaw mlwydd oed. Cyfle i fynd i'r afael â bale a dawns gyfoes o safbwynt newydd ac athletaidd gyda dosbarthiadau a pherfformiad yn y Tŷ Dawns. Wedi ei gynllunio ar gyfer pob lefel o brofiad, o'r rheini sydd wedi gweld dawns ar y teledu yn unig i'r rheini sy'n cael gwersi cyson, y prif nod yw denu rhagor o fechgyn i ymwneud â dawns a chael eu cyffroi gan ddawns yn ogystal â chyfarfod â phobl eraill sy'n mwynhau her gorfforol, hwb meddyliol a chael hwyl.


PROFIAD GWAITH DI-BROFFESIYNOL:

Ar hyd y flwyddyn, cynigiwn nifer fach o gyfleoedd profiad gwaith wythnos o hyd gyda'r dawnswyr proffesiynol sydd wedi eu lleoli yn y Tŷ Dawns. Rhaid i'r ymgeiswyr fod â phrofiad o fale a dawns gyfoes gan fod y profiad gwaith yn cynnwys cymryd rhan yn nosbarth y Cwmni. Cyfle gwych i gael mewnwelediad i fyd hyfforddiant dawns broffesiynol trwy brofi dosbarth ar lefel broffesiynol, cyfarfod â dawnswyr y Cwmni a gwylio ymarferion.


GALA DDAWNS BOBL IFANC
:

Yn flynyddol mae Dance Explorer Diversions yn cynnal Gala Ddawns Bobl Ifanc yn y Tŷ Dawns er mwyn dathlu'r gorau o ddawns pobl ifanc yng Nghymru. Mae'r grwpiau a wahoddir yn mynd ati i greu'r gwaith mwyaf medrus a fedrant gan gyflwyno'r gwaith wedyn fel rhan o sioe o ddoniau, datblygiad a medrusrwydd. Cynhelir y perfformiad yn y Tŷ Dawns ar gyfer cynulleidfa sy'n cynnwys y cyhoedd yn ogystal â theuluoedd a chyfeillion. Mae'r Gala Ddawns Bobl Ifanc yn ffordd wych o gynnull ynghyd ddawnswyr ifanc ymroddedig a dawnus er mwyn gweld yr amrywiaeth a safon uchel perfformiadau pobl ifanc heddiw.