Lleoliad

  • cr_6.jpg
  • cr_5.jpg
  • cr_4.jpg
  • cr_2.jpg
  • cr_3.jpg
  • cr_1.jpg

Sut i ddod o hyd i ni

Yn cyrraedd mewn car
Gadewch yr M4 yng nghyffordd 33 (Arwyddion 'Caerdydd (Gorllewin), Barri, Penarth, Awyrenfa Caerdydd a'r A4232). Ymunwch â'r A4232 a mynd arni am o ddeutu 9.3 milltir. Gadewch yr A4232 rhyw ychydig cyn cyrraedd Twnnel Tre Fiwt a dilyn yr arwyddion ar gyfer Techniquest. Ewch yn eich blaen ar hyd Stuart Street a throi i'r dde wedi cyrraedd y set gyntaf o oleuadau traffig. Mae Canolfan Mileniwm Cymru o'ch blaen. Mae'r fynedfa i'r Tŷ Dawns ar Stryd Pierhead, gyferbyn â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ben yr adeilad sydd bellaf oddi wrth y pwll hirgrwn.

Parcio
Cei'r Môr Forwyn (y tu allan o ganolfan Red Dragon)
Havannah Street (ger Techniquest a Gwesty a Spa Dewi Sant)
Pierhead Street (ger Cynulliad Cenedlaethol Cymru a thu ôl i Ganolfan Mileniwm Cymru)

Ar y bws
Mae bysiau rhif 1, 2, 6/7 (Gwibiwr y Bae), 8, 35 ac X45 yn gwasanaethu Bae Caerdydd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Bws Caerdydd
Tel: 029 20 78 77 00
www.cardiffbus.com

Ar y trên
Mae gwasanaeth trên cyson yn gwasanaethu gorsaf Bae Caerdydd rhwng dydd Llun a phrynhawn Sul.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Trenau Arriva Cymru
Tel: 0845 606 1660
www.arrivatrainswales.co.uk

Ymholiadau Rheilffordd Cenedlaethol
Tel: 08457 48 49 50
www.nationalrail.co.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill gan gynnwys parcio i bobl gydag anabledd ayb. Cysylltwch â Swyddfa Docynnau CMC ar 08700 40 2000 ynteu ewch i ymweld â www.wmc.org.uk