Estyn allan

  • cr_6.jpg
  • cr_5.jpg
  • cr_4.jpg
  • cr_2.jpg
  • cr_3.jpg
  • cr_1.jpg

Ein cartref yw eich cartref

Yn ogystal â chynhyrchu a pherfformio ein gweithiau ein hunain yn y Tŷ Dawns, mae Diversions yn annog perfformwyr ac artistiaid eraill a'r cyhoedd i fanteisio ar adnoddau ardderchog y Tŷ Dawns. Mae hyn yn ein galluogi i gael cyswllt â'r cyhoedd, a thrwy hynny greu ymwybyddiaeth o Diversions a'r gwaith y mae'n ei greu a'i gyflwyno.

Rhai enghreifftiau o'n gwaith Estyn Allan:

PERFFORMIADAU TŶ DAWNS:

Gydag angerdd ynghylch dod â dawnsio unigryw a mentrus i Gaerdydd, mae Diversions yn cyflwyno perfformiadau dawns yn y Tŷ Dawns mewn cydgysylltiad â Chanolfan Mileniwm Cymru. Mynnwch gip ar ein tudalen Ddigwyddiadau er mwyn cael gwybod ynghylch digwyddiadau'r dyfodol yn y Tŷ Dawns.

Dosbarth Agored:

Pan fyddwn yn breswyl yn y Tŷ Dawns mae ein dosbarthiadau weithiau ar agor i bobl â diddordeb mewn dawns megis artistiaid gweledol sy'n dymuno sgetsio, ynteu unigolion sy'n chwilio am ysbrydoliaeth ynteu syniadau creadigol, ynteu efallai bobl sydd â dim mwy na diddordeb mewn gweld dosbarth dawns ar lefel broffesiynol.
[Os yw'r posibilrwydd hwn o ddiddordeb i chi yna cysylltwch os gwelwch yn dda â Chynorthwydd Gweithredol Diversions, Charlotte Yuen, trwy roi caniad iddi ar 029 2063 5605]


Sesiynau Blasu:

Er mwyn annog cynulleidfaoedd newydd, mae Diversions yn gyson agor ei ddrysau i bobl nad ydynt wedi gweld perfformiad o ddawnsio cyfoes o'r blaen. Mae Diversions yn awyddus i estyn allan i gynulleidfaoedd newydd ac mae'r Sesiynau Blasu yn gwahodd pobl i ddod i ymlacio yn awyrgylch braf y Tŷ Dawns er mwyn gweld rhannau o ddosbarth y Cwmni a'n repertoire cyfredol. Esbonnir y gwaith gan nodiadau ar ysbrydoliaeth y coreograffwyr a'r syniadau a wyntyllir o fewn pob cynhyrchiad. Gwahoddir aelodau o'r gynulleidfa i siarad â'r dawnswyr a'r staff ynghylch perfformiadau sydd ar y gweill.