Dance Explorer
Dance Explorer: yn archwilo ein perthynas â'n cymuned
Mae Diversions o'r gred fod creu profiadau dawns cryf wedi ei wreiddio yn y berthynas gref sydd gan y Cwmni â'i chymunedau. Mae Dance Explorer yn cwmpasu holl waith Diversions oddi ar y prif lwyfan - Datblygiad Proffesiynol, Cyfranogi ac Estyn Allan (gweler yr is rannau er mwyn darllen am enghreifftiau phonynt) - sy'n darparu profiadau ardderchog ac o safon uchel i'r unigolion o bob oedran a gallu, cynulleidfaoedd, dawnswyr ifanc, y rheini â doniau creadigol newydd yn ogystal â'r rheini sy'n dymuno gwthio ffiniau dawns.
Mae Dance Explorer yn flaengar, heriol ac yn ardderchog ar draws ystod eang o waith o estyn allan i gyfranogi, o ddatblygiad proffesiynol i arbrofi gyda'r gelfyddyd â'r nod o feithrin a hybu dawns o Gymru. Gan weithio mewn partneriaeth gyda mudiadau diwylliannol eraill, cydnabyddir fod Dance Explorer yn darparu gwaith gwreiddiol a heriol yn ogystal ag ystod o gyfleoedd creadigol sy'n hyrwyddo a chefnogi.







